cy EN Phone Icon
Novus Gower

Hysbysiad Hygyrchedd Gwe

Ein hymrwymiad a'n hymagwedd at gynnal gwefan hygyrch

Mae Novus Gŵyr yn ymrwymedig i:

  • Gynnal gwefan hygyrch
  • sicrhau bod y wefan yn cydymffurfio â "Lefel AA" Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1, a chydymffurfio â Chod Ymarfer yr Awdurdod Anableddau Cenedlaethol ar Hygyrchedd Gwasanaethau Cyhoeddus a gwybodaeth a ddarperir gan Gyrff Cyhoeddus sicrhau bod yr holl wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan yn diwallu gofynion "Lefel AA" Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1, gan gynnwys gofynion hygyrchedd mewn perhynas â chaffael ac ychwanegu systemau trydydd parti neu ddiweddariadau i systemau presennol.
  • Mae'r wefan hon yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd swyddogol Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1. Rydym bob amser yn ceisio gwneud gwelliannau i'n gwefannau fel eu bod yn hygyrch i bawb, a byddwn yn gweithredu'r nodweddion hyn unwaith y byddant ar gael i'w defnyddio.

Meysydd i'w gwella

Rydym yn gwybod y gallwn wella rhai pethau ar y wefan er mwyn hwyluso hygyrchedd. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i gyflawni hyn.

Gobeithiwn y bydd y wefan hon yn bodloni safonau "Lefel AA" Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1.

Rydym am i bob fideo gynnwys penawdau caeedig (closed captions) Cymraeg a Saesneg. Ar hyn o bryd, dim ond penawdau caeedig Saesneg rydym yn gallu eu cynnig.

Ar hyn o bryd rydym yn ceisio rhoi gwell drefn ar dabiau llywio i hwyluso gwe-lywio i ddefnyddwyr sy'n defnyddio rhaglenni darllen sgrin neu unigolion nad ydynt yn defnyddio llygoden.

Nodweddion hygyrchedd y wefan

Gellir newid maint testun ein gwefan wrth fynd i'r gosodiadau naill ai trwy ddefnyddio porwyr neu systemau gweithredu. Mae'r wefan yn ymatebol i newidiadau a bydd yn newid maint y testun yn unol â lefel y chwyddhad. I newid maint y testun yn y porwr; gwasgwch CTRL+ i chwyddo'r dudalen a CTRL- i leihau'r dudalen. Mae'r nodweddion yn gwneud y wefan yn fwy hygyrch i unigolion â nam ar eu golwg.

I wella cyferbynedd (contrast) eich sgrin, rydym wedi cynnwys opsiwn i newid y cyferbynnedd os yw'n rhy uchel. Mae lliwiau llachar yn ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg ddarllen cynnwys.

Mae gan y wefan rywfaint o gydnawsedd mewn perthynas â rhaglenni darllen sgrin gan ei fod yn caniatáu i ddefnyddwyr y cynllun sgrin a phresenoldeb 'alt-text' ar ddelweddau. Gallwch gael mynediad i'r wefan ar bob math o ddyfais oherwydd ei natur ymatebol. Bydd y wefan yn dewis cynllun sgrin addas yn awtomatig, yn dibynnu ar faint y sgrin a'r math o ddyfais sy'n cael ei ddefnyddio i gyrchu'r wefan. Enghraifft dda o sut mae'r nodwedd hon yn helpu defnyddwyr yw'r ddewislen 'byrgyr', sy'n helpu defnyddwyr i glicio sgriniau bach yn haws. Cafodd cynnwys y gwefan ei greu i weddu i lefel iaith pawb. Nod y wefan yw bod yn ddarllenadwy i bawb. Mae holl gynnwys yn cael ei gyfeiithu i'r Gymraeg.

Sut i ddarparu adborth ar hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar hygyrchedd yw wefan hon.

Cysylltwch

Web design by Pedwar
Loading...