cy EN Phone Icon
Novus Gower

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) 2000 yn cynnig hawl at wybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus ac mae hefyd nodi’r holl eithriadau i’r hawl hwn.

Sut i gyrchu gwybodaeth am Novus Gŵyr:

  1. Darllenwch ein Cynllun Cyhoeddi
  2. Ewch i’n gwefan
  3. Gwiriwch ffynonellau allanol am wybodaeth gyhoeddedig
  4. Gwnewch gais am wybodaeth: foi@ltegroup.co.uk

Cynllun Cyhoeddi

Mae cynllun cyhoeddi yn un o ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) 2000. Mae'r Ddeddf yn hybu gonestrwydd ac atebolrwydd ar draws y sector cyhoeddus drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn modd rhagweithiol ar ffurf cynllun cyhoeddi.

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus greu Cynllun Cyhoeddi sy’n nodi:

  • Y wybodaeth y byddant yn ei gyhoeddi
  • Fformat y bydd y wybodaeth yn cael e gyhoeddi
  • a yw'r wybodaeth ar gael am ddim ai peidio

Mae'r Cynllun Cyhoeddi ar gael i'w lawrlwytho ar ein gwefan novus.ac.uk.

Mae ein Cynllun yn dilyn yr un Cynllun Cyhoeddi enghreifftiol a gynhyrchwyd ar gyfer Colegau Addysg Bellach gan swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Mae’r Cynllun Cyhoeddi yn gweithredu fel canllaw i’r wybodaeth a ddarparwn i’r cyhoedd fel rhan o’n busnes arferol. Mae’r wybodaeth yn cael eu rhannu i’r categorïau isod:

  • Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud
  • Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario
  • Eich blaenoriaethau
  • Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
  • Rhestrau a chofrestrau
  • Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Nid yw'r Cynllun yn rhestr o gyhoeddiadau gwirioneddol. Bydd y rhain yn newid wrth i ddeunydd newydd gael ei gyhoeddi neu pan fydd deunydd presennol yn cael ei adolygu. Fodd bynnag, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd.

Beth am wybodaeth sydd heb ei gynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi?

Mae gennych chi'r hawl (o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth) i ofyn am unrhyw wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus nad yw eisoes wedi'i nodi drwy ei gynllun cyhoeddi.

Dylid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig try e-bostio: foi@ltegroup.co.uk. Yn gyffredinol, bydd gan awdurdodau cyhoeddus 20 diwrnod gwaith i ymateb i'ch cais. Gallant godi ffi, a fydd yn cael ei gyfrifo yn unol â'u Rheoliadau Ffioedd, ond nid yw'n ofynnol iddynt ryddhau gwybodaeth sy’n cael ei nodi fel eithriad yn Neddf Rhyddid gwybodaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus esbonio i’r unigolyn sy’n gwneud y cais pam na fydd yn derbyn gwybodaeth benodol ac efallai y bydd yn rhaid iddynt hefyd gyfiawnhau hyn i’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Manylion Cyswllt

Mae'n bwysig bod y cynllun cyhoeddi hwn yn diwallu eich anghenion. Os ydych chi'n cael anhawster deall y cynllun, rhowch wybod i ni. Mae croeso i chi gyflwyno awgrymiadau ar sut i wella ein cynllun. Dylid anfon unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion am y cynllun hwn yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad e-bost neu bost isod:

Ysgrifennydd y Cwmni a'r Cwnsler Cyffredinol
Whitworth House
Ashton Old Road
Manchester
M11 2WH
foi@ltegroup.co.uk

Os na allwn ddatrys y gŵyn, mae gennych hawl i gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth, y corff annibynnol sy’n goruchwylio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:

Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wimslow
Cheshire
SK9 5AF

Web design by Pedwar
Loading...