cy EN Phone Icon
Novus Gower

Novus Gŵyr

Unedig dros Ddyfodol Gwell

Menter ar y cyd yw Novus Gŵyr rhwng Novus, un o ddarparwyr rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd mwyaf y DU i garcharorion, a Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf Cymru.

Gweithio gyda ni

Mae Novus Gŵyr yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i sicrhau bod ein hatebion addysg yn diwallu'r ystod ehangaf posibl o anghenion dysgwyr, ac rydym am wneud y mwyaf o siawns carcharorion o sicrhau cyflogaeth ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Rydym yn awyddus i glywed gan bartneriaid newydd sydd â diddordeb mewn gweithio gyda ni i:

  • Ddarparu addysg gynhwysol sy'n cefnogi datblygiad a thwf dysgwyr;
  • Cyd-ddylunio a chreu amgylcheddau dysgu sy'n adlewyrchu gofynion y farchnad lafur, a;
  • Datblygu cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg sy'n cefnogi dysgwyr i greu cadarnhaol ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Felly, os ydych chi'n rhannu'r un weledigaeth â ni ar gyfer addysg arloesol, gynhwysol ac effeithiol i garcharorion yn Ne Cymru, cysylltwch â ni:

Web design by Pedwar
Loading...